Job 33:15-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Mewn breuddwyd, mewn gweledigaeth nos,pan ddaw trymgwsg ar bobl,pan gysgant yn eu gwelyau,

16. yna fe wna iddynt wrando,a'u dychryn â rhybuddion,

17. i droi rhywun oddi wrth ei weithred,a chymryd ymaith ei falchder oddi wrtho,

18. a gwaredu ei einioes rhag y pwll,a'i fywyd rhag croesi afon angau.

19. “Fe'i disgyblir ar ei orweddâ chryndod di-baid yn ei esgyrn;

20. y mae bwyd yn ffiaidd ganddo,ac nid oes arno chwant am damaid blasus;

21. nycha'i gnawd o flaen fy llygad,a daw'r esgyrn, na welid gynt, i'r amlwg;

22. y mae ei einioes ar ymyl y pwll,a'i fywyd ger mangre'r meirw.

23. Os oes angel i sefyll drosto—un o blith mil i gyfrynguac i ddadlau ei hawl drosto,

24. a thrugarhau wrtho gan ddweud,‘Achub ef rhag mynd i'r pwll;y mae pris ei ryddid gennyf fi’—

Job 33