Job 28:5-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Ceir bwyd o'r ddaear,eto oddi tani y mae wedi ei chynhyrfu fel gan dân.

6. Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir,a llwch aur sydd ynddi.

7. Y mae llwybr na ŵyr hebog amdano,ac nas gwelwyd gan lygad barcud,

8. ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar,ac na theithiodd y llew arno.

9. Estyn dyn ei law am y gallestr,a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl.

10. Egyr dwnelau yn y creigiau,a gwêl ei lygaid bopeth gwerthfawr.

11. Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd,a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt.

12. Ond pa le y ceir doethineb?a pha le y mae trigfan deall?

13. Ni ŵyr neb ble mae ei chartref,ac nis ceir yn nhir y byw.

Job 28