Job 26:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Y mae Sheol yn noeth ger ei fron,ac nid oes gorchudd dros Abadon.

7. Taena'r gogledd ar y gwagle,a gesyd y ddaear ar ddim.

8. Rhwyma'r dyfroedd yn ei gymylau,ac ni rwygir y cwmwl odanynt.

9. Taena orchudd dros wyneb y lloer,a thyn ei gwmwl drosto.

10. Gesyd gylch ar wyneb y dyfroedd,yn derfyn rhwng goleuni a thywyllwch.

11. Sigla colofnau'r nefoedd,a dychrynant pan gerydda.

Job 26