Job 23:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf;os try i'r de, nis gwelaf.

10. Ond y mae ef yn deall fy ffordd;wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur.

11. Dilyn fy nhroed ei lwybr;cadwaf ei ffordd heb wyro.

12. Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau;cadwaf ei eiriau yn fy mynwes.

13. Erys ef yr un, a phwy a'i try?Fe wna beth bynnag a ddymuna.

14. Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben,fel llawer o rai eraill sydd ganddo.

15. Am hyn yr arswydaf rhagddo;pan ystyriaf, fe'i hofnaf.

Job 23