Job 21:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. “Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant?Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw.

17. “Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol,ac y daw eu dinistr arnynt hwy,ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid?

18. A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt,neu fel us a ddygir ymaith gan y storm?

19. A geidw Duw ddinistr rhiant i'w blant?Na, taled iddo ef ei hun, a'i ddarostwng.

20. Bydded i'w lygaid ei hun weld ei ddinistr,ac yfed o lid yr Hollalluog.

Job 21