Job 19:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Aeth fy anadl yn atgas i'm gwraig,ac yn ddrewdod i'm plant fy hun.

18. Dirmygir fi hyd yn oed gan blantos;pan godaf ar fy nhraed, y maent yn troi cefn arnaf.

19. Ffieiddir fi gan fy nghyfeillion pennaf;trodd fy ffrindiau agosaf yn f'erbyn.

20. Y mae fy nghnawd yn glynu wrth fy esgyrn,a dihengais â chroen fy nannedd.

21. “Cymerwch drugaredd arnaf, fy nghyfeillion,oherwydd cyffyrddodd llaw Duw â mi.

22. Pam yr erlidiwch fi fel y gwna Duw?Oni chawsoch ddigon ar ddifa fy nghnawd?

Job 19