Job 12:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Atebodd Job:

2. “Yn wir, chwi yw'r bobl,a chyda chwi y derfydd doethineb!

3. Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau,ac nid wyf yn salach na chwi;yn wir, pwy sydd heb wybod hyn?

4. “Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion,er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb;y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd!

Job 12