Job 11:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. O na lefarai Duw,ac agor ei wefusau i siarad â thi,

6. a hysbysu iti gyfrinachau doethineb,a bod dwy ochr i ddeall!Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd.

7. A elli di ddarganfod dirgelwch Duw,neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?

8. Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di?Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?

9. Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear,ac yn ehangach na'r môr.

Job 11