Jeremeia 8:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Clywir ei feirch yn ffroeni o wlad Dan;crynodd yr holl ddaear gan drwst ei stalwyni'n gweryru.Daethant gan ysu'r tir a'i lawnder,y ddinas a'r rhai oedd yn trigo ynddi.

17. “Dyma fi'n anfon seirff i'ch mysg,gwiberod na ellir eu swyno,ac fe'ch brathant,” medd yr ARGLWYDD.

18. Y mae fy ngofid y tu hwnt i wellhad,a'm calon wedi clafychu.

19. Clyw! Cri merch fy mhobl o wlad bellennig:“Onid yw'r ARGLWYDD yn Seion? Onid yw ei brenin ynddi?”“Pam y maent yn fy nigio â'u delwau, â'u heilunod estron?”

20. “Aeth y cynhaeaf heibio, darfu'r haf, a ninnau heb ein hachub.”

Jeremeia 8