Jeremeia 51:36-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

36. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Dyma fi'n dadlau dy achos, ac yn dial drosot;disbyddaf ei môr hi, a sychaf ei ffynhonnau.

37. Bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa i siacaliaid;yn arswyd ac yn syndod, heb neb i breswylio ynddi.

38. “Rhuant ynghyd fel llewod,a chwyrnu fel cenawon llew.

39. Paraf i'w llymeitian ddarfod mewn twymyn,meddwaf hwy nes y byddant yn chwil,ac yn syrthio i drymgwsg diderfyn, diddeffro,” medd yr ARGLWYDD.

40. “Dygaf hwy i waered, fel ŵyn i'r lladdfa,fel hyrddod neu fychod geifr.

41. “O fel y goresgynnwyd Babilonac yr enillwyd balchder yr holl ddaear!O fel yr aeth Babilon yn syndod i'r cenhedloedd!

42. Ymchwyddodd y môr yn erbyn Babilon,a'i gorchuddio â'i donnau terfysglyd.

43. Aeth ei dinasoedd yn ddiffaith,yn grastir ac anialdir,heb neb yn trigo ynddyntnac unrhyw un yn ymdaith trwyddynt.

Jeremeia 51