Jeremeia 5:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Rhedwch yma a thraw trwy heolydd Jerwsalem, edrychwch a sylwch;chwiliwch yn ei lleoedd llydain a oes un i'w gaelsy'n gwneud barn ac yn ceisio gwirionedd,er mwyn i mi ei harbed hi.

2. Er iddynt ddweud, ‘Byw yw'r ARGLWYDD’,eto tyngu'n gelwyddog y maent.”

3. O ARGLWYDD, onid ar wirionedd y mae dy lygaid di?Trewaist hwy, ond ni fu'n ofid iddynt;difethaist hwy, ond gwrthodasant dderbyn cerydd.Gwnaethant eu hwynebau'n galetach na charreg,a gwrthod dychwelyd.

4. Yna dywedais, “Nid yw'r rhai hyn ond tlodion; ynfydion ydynt,a heb wybod ffordd yr ARGLWYDD na gofynion eu Duw.

5. Mi af yn hytrach at y mawrion, i ymddiddan â hwy;fe wyddant hwy ffordd yr ARGLWYDD a gofynion eu Duw.Ond y maent hwythau'n ogystal wedi malurio'r iau,a dryllio'r tresi.

6. Am hyn, bydd llew o'r coed yn eu taro i lawr,a blaidd o'r anialwch yn eu distrywio;bydd llewpard yn gwylio'u dinasoeddac yn llarpio pob un a ddaw allan ohonynt;oherwydd amlhaodd eu troseddau a chynyddodd eu gwrthgiliad.

Jeremeia 5