Jeremeia 48:37-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

37. Bydd pob pen yn foel a phob barf wedi ei heillio, archollir pob llaw, a bydd sachliain am y llwynau.

38. Ar ben pob tŷ yn Moab, ac ym mhob heol, bydd galar, oherwydd drylliaf Moab fel llestr nad oes neb yn ei hoffi,” medd yr ARGLWYDD.

39. “Pa fodd y malwyd hi? Udwch! Pa fodd y troes Moab ei gwegil o gywilydd? Felly y bydd Moab yn gyff gwawd ac yn achos arswyd i bawb o'i hamgylch.”

40. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele, bydd un fel eryr yn ehedeg,ac yn lledu ei adenydd dros Moab;

Jeremeia 48