Jeremeia 48:36-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

36. Am hynny bydd fy nghalon yn dolefain fel sain ffliwt dros Moab, ac yn dolefain fel sain ffliwt dros wŷr Cir-heres, oblegid darfu'r golud a gasglasant.

37. Bydd pob pen yn foel a phob barf wedi ei heillio, archollir pob llaw, a bydd sachliain am y llwynau.

38. Ar ben pob tŷ yn Moab, ac ym mhob heol, bydd galar, oherwydd drylliaf Moab fel llestr nad oes neb yn ei hoffi,” medd yr ARGLWYDD.

39. “Pa fodd y malwyd hi? Udwch! Pa fodd y troes Moab ei gwegil o gywilydd? Felly y bydd Moab yn gyff gwawd ac yn achos arswyd i bawb o'i hamgylch.”

40. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele, bydd un fel eryr yn ehedeg,ac yn lledu ei adenydd dros Moab;

41. gorchfygir y dinasoedd,ac enillir yr amddiffynfeydd,a bydd calon dewrion Moab, y diwrnod hwnnw,fel calon gwraig wrth esgor.

42. Difethir Moab o fod yn bobl,canys ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD.

Jeremeia 48