4. Yna galwodd Jeremeia ar Baruch fab Nereia, ac wrth i Jeremeia lefaru ysgrifennodd Baruch yn y sgrôl yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia.
5. Yna rhoes y gorchymyn hwn i Baruch: “Fe'm rhwystrwyd i rhag mynd i dŷ'r ARGLWYDD,
6. ond dos di, ac ar ddydd ympryd darllen o'r sgrôl, yng nghlyw'r bobl yn nhŷ'r ARGLWYDD, holl eiriau'r ARGLWYDD fel y lleferais hwy. Darllen hwy hefyd yng nghlyw holl bobl Jwda a ddaw o'u dinasoedd.
7. Efallai y derbynnir eu gweddi gan yr ARGLWYDD, ac y bydd pob un yn troi o'i ffordd ddrygionus, oherwydd y mae'r llid a'r digofaint a fynegodd yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl hyn yn fawr.”