Jeremeia 3:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Yr adeg honno galwant Jerwsalem yn orsedd yr ARGLWYDD, ac ymgasgla ati'r holl genhedloedd yno at enw'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; ac ni rodiant mwyach yn ôl ystyfnigrwydd eu calon ddrygionus.

18. Yn y dyddiau hynny fe â tŷ Jwda at dŷ Israel, a dônt ynghyd o dir y gogledd i'r tir y perais i'ch hynafiaid ei etifeddu.”

19. “Dywedais, ‘Sut y gosodaf di ymhlith y plant,i roi i ti dir dymunol,ac etifeddiaeth orau'r cenhedloedd?’A dywedais, ‘Fe'm gelwi, “Fy nhad”,ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl.’

Jeremeia 3