Jeremeia 10:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas,gwaith y saer a dwylo'r eurych;a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor—gwaith crefftwyr ydyw i gyd.

10. Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw;ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol;y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid,ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter.

11. Fel hyn y dywedwch wrthynt: “Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe gânt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd.”

Jeremeia 10