Ioan 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan ddeallodd Iesu fod y Phariseaid wedi clywed ei fod ef yn ennill ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan

2. (er nad Iesu ei hun, ond ei ddisgyblion, fyddai'n bedyddio),

3. gadawodd Jwdea ac aeth yn ôl i Galilea.

4. Ac yr oedd yn rhaid iddo fynd trwy Samaria.

5. Felly daeth i dref yn Samaria o'r enw Sychar, yn agos i'r darn tir a roddodd Jacob i'w fab Joseff.

Ioan 4