Ioan 16:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Ond am fy mod wedi dweud hyn wrthych, daeth tristwch i lenwi eich calon.

7. Yr wyf fi'n dweud y gwir wrthych: y mae'n fuddiol i chwi fy mod i'n mynd ymaith. Oherwydd os nad af, ni ddaw'r Eiriolwr atoch chwi. Ond os af, fe'i hanfonaf ef atoch.

8. A phan ddaw, fe argyhoedda ef y byd ynglŷn â phechod, a chyfiawnder, a barn;

9. ynglŷn â phechod am nad ydynt yn credu ynof fi;

10. ynglŷn â chyfiawnder oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad, ac na chewch fy ngweld ddim mwy;

Ioan 16