Ioan 13:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Meddai Pedr wrtho, “Ni chei di olchi fy nhraed i byth.” Atebodd Iesu ef, “Os na chaf dy olchi di, nid oes lle iti gyda mi.”

9. “Arglwydd,” meddai Simon Pedr wrtho, “nid fy nhraed yn unig, ond golch fy nwylo a'm pen hefyd.”

10. Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'r sawl sydd wedi ymolchi drosto yn lân i gyd, ac nid oes arno angen golchi dim ond ei draed. Ac yr ydych chwi yn lân, ond nid pawb ohonoch.”

Ioan 13