38. Dan deimlad dwys drachefn, daeth Iesu at y bedd. Ogof ydoedd, a maen yn gorwedd ar ei thraws.
39. “Symudwch y maen,” meddai Iesu. A dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud wrtho, “Erbyn hyn, syr, y mae'n drewi; y mae yma ers pedwar diwrnod.”
40. “Oni ddywedais wrthyt,” meddai Iesu wrthi, “y cait weld gogoniant Duw, dim ond iti gredu?”
41. Felly symudasant y maen. A chododd Iesu ei lygaid i fyny a dweud, “O Dad, rwy'n diolch i ti am wrando arnaf.
42. Roeddwn i'n gwybod dy fod bob amser yn gwrando arnaf, ond dywedais hyn o achos y dyrfa sy'n sefyll o gwmpas, er mwyn iddynt gredu mai tydi a'm hanfonodd.”
43. Ac wedi dweud hyn, gwaeddodd â llais uchel, “Lasarus, tyrd allan.”