Hosea 9:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Ni thywalltant win yn offrwm i'r ARGLWYDD,ac ni fodlonir ef â'u haberthau;byddant iddynt fel bara galarwyr,sy'n halogi pawb sy'n ei fwyta.Canys at eu hangen eu hunain y bydd eu bara,ac ni ddaw i dŷ'r ARGLWYDD.

5. Beth a wnewch ar ddydd yr ŵyl sefydlog,ar ddydd uchel ŵyl yr ARGLWYDD?

6. Canys wele, ffoant rhag dinistr;bydd yr Aifft yn eu casglu,a Memffis yn eu claddu;bydd danadl yn meddiannu eu trysorau arian,a drain fydd yn eu pebyll.

7. Daeth dyddiau cosbi,dyddiau i dalu'r pwyth,a darostyngir Israel.“Ffŵl yw'r proffwyd,gwallgof yw gŵr yr ysbryd.”O achos dy ddrygioni mawrbydd dy elyniaeth yn fawr.

8. Y mae'r proffwyd yn wyliwr i Effraim, pobl fy Nuw,ond y mae magl heliwr ar ei holl ffyrdda gelyniaeth yn nhŷ ei Dduw.

9. Syrthiasant yn ddwfn i lygredd,fel yn nyddiau Gibea.Fe gofia Duw eu drygionia chosbi eu pechodau.

Hosea 9