Hosea 9:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. “Fel grawnwin yn yr anialwch y cefais hyd i Israel;fel blaenffrwyth ar ffigysbren newydd y gwelais eich tadau.Ond aethant i Baal-peor,a'u rhoi eu hunain i warth eilun;ac aethant mor ffiaidd â gwrthrych eu serch.

11. Bydd gogoniant Effraim yn ehedeg ymaith fel aderyn;ni bydd na geni, na chario plant na beichiogi.

12. Pe magent blant,fe'u gwnawn yn llwyr amddifad.Gwae hwy pan ymadawaf oddi wrthynt!

Hosea 9