Hosea 6:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Dewch, dychwelwn drachefn at yr ARGLWYDD;fe'n drylliodd, ac fe'n hiachâ;fe'n trawodd, ac fe'n meddyginiaetha.

2. Fe'n hadfywia ar ôl deuddydd,a'n codi ar y trydydd dydd, inni fyw yn ei ŵydd.

3. Gadewch inni adnabod, ymdrechu i adnabod, yr ARGLWYDD;y mae ei ddyfodiad mor sicr â'r wawr;daw fel glaw atom, fel glaw gwanwyn sy'n dyfrhau'r ddaear.”

Hosea 6