Hebreaid 7:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. a'i offeiriadaeth yn dibynnu, nid ar gyfraith sydd â'i gorchymyn yn ymwneud â'r cnawd ond ar nerth bywyd annistryw.

17. Oherwydd tystir amdano:“Yr wyt ti'n offeiriad am bythyn ôl urdd Melchisedec.”

18. Felly, y mae yma ddiddymu ar y gorchymyn blaenorol, am ei fod yn wan ac anfuddiol.

19. Oherwydd nid yw'r Gyfraith wedi dod â dim i berffeithrwydd. Ond yn awr cyflwynwyd i ni obaith rhagorach yr ydym drwyddo yn nesáu at Dduw.

20. Yn awr, ni ddigwyddodd hyn heb i Dduw dyngu llw.

Hebreaid 7