Hebreaid 5:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Fel y mae'n dweud mewn lle arall hefyd:“Yr wyt ti'n offeiriad am bythyn ôl urdd Melchisedec.”

7. Yn nyddiau ei gnawd, fe offrymodd Iesu weddïau ac erfyniadau, gyda llef uchel a dagrau, i'r Un oedd yn abl i'w achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei wrando o achos ei barchedig ofn.

8. Er mai Mab ydoedd, dysgodd ufudd-dod drwy'r hyn a ddioddefodd,

9. ac wedi ei berffeithio, daeth yn ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol i bawb sydd yn ufuddhau iddo,

10. wedi ei enwi gan Dduw yn archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.

11. Am Melchisedec y mae gennym lawer i'w ddweud sydd yn anodd ei egluro, oherwydd eich bod chwi wedi mynd yn araf i ddeall.

12. Yn wir, er y dylech erbyn hyn fod yn athrawon, y mae arnoch angen rhywun i ailddysgu ichwi elfennau cyntaf oraclau Duw; angen llaeth sydd arnoch chwi, ac nid bwyd cryf.

Hebreaid 5