Hebreaid 11:20-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau ar gyfer pethau i ddod.

21. Trwy ffydd y bendithiodd Jacob, wrth farw, bob un o feibion Joseff, ac addoli รข'i bwys ar ei ffon.

22. Trwy ffydd y soniodd Joseff, wrth farw, am exodus meibion Israel, a rhoi gorchymyn ynghylch ei esgyrn.

23. Trwy ffydd y cuddiwyd Moses ar ei enedigaeth am dri mis gan ei rieni, oherwydd eu bod yn ei weld yn blentyn tlws. Nid oedd arnynt ofn gorchymyn y brenin.

24. Trwy ffydd y gwrthododd Moses, wedi iddo dyfu i fyny, gael ei alw yn fab i ferch Pharo,

25. gan ddewis goddef adfyd gyda phobl Dduw yn hytrach na chael mwynhad pechod dros dro,

26. a chan ystyried gwaradwydd yr Eneiniog yn gyfoeth mwy na thrysorau'r Aifft, oherwydd yr oedd ei olwg ar y wobr.

27. Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, heb ofni dicter y brenin, canys safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig.

Hebreaid 11