1. Yn ail flwyddyn y Brenin Dareius, yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o'r mis, daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai:
2. “Dywed wrth Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac wrth Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl,
3. ‘A adawyd un yn eich plith a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? Sut yr ydych chwi yn ei weld yn awr? Onid megis dim yn eich golwg?