Genesis 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma lyfr cenedlaethau Adda. Pan greodd Duw bobl, gwnaeth hwy ar lun Duw.

2. Fe'u creodd yn wryw ac yn fenyw, a bendithiodd hwy; ac ar ddydd eu creu fe'u galwodd yn ddyn.

3. Bu Adda fyw am gant tri deg o flynyddoedd cyn geni mab iddo, ar ei lun a'i ddelw; a galwodd ef yn Seth.

4. Wedi geni Seth, bu Adda fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

5. Felly yr oedd oes gyfan Adda yn naw cant tri deg o flynyddoedd; yna bu farw.

Genesis 5