Genesis 48:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ôl hyn dywedwyd wrth Joseff, “Y mae dy dad yn wael.” Felly cymerodd gydag ef ei ddau fab, Manasse ac Effraim,

2. a phan ddywedwyd wrth Jacob, “Y mae dy fab Joseff wedi dod atat”, cafodd Israel nerth i godi ar ei eistedd yn y gwely.

3. Yna dywedodd Jacob wrth Joseff, “Ymddangosodd Duw Hollalluog i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, a'm bendithio

4. a dweud wrthyf, ‘Fe'th wnaf di'n ffrwythlon a lluosog, yn gynulliad o bobloedd, a rhof y wlad hon yn etifeddiaeth dragwyddol i'th ddisgynyddion ar dy ôl.’

Genesis 48