Genesis 42:30-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. “Siaradodd y gŵr oedd yn arglwydd y wlad yn hallt wrthym, a chymryd mai ysbiwyr oeddem.

31. Dywedasom ninnau wrtho, ‘Gwŷr gonest ydym ni, ac nid ysbiwyr.

32. Yr oeddem yn ddeuddeg brawd, meibion ein tad; bu farw un, ac y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad yng ngwlad Canaan.’

33. Yna dywedodd arglwydd y wlad wrthym, ‘Fel hyn y caf wybod eich bod yn onest: gadewch un o'ch brodyr gyda mi, a chymerwch ŷd at angen eich teuluoedd, ac ewch ymaith.

Genesis 42