Genesis 41:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Atebodd Joseff Pharo a dweud, “Nid myfi; Duw a rydd ateb ffafriol i Pharo.”

17. Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Yn fy mreuddwyd yr oeddwn yn sefyll ar lan y Neil,

18. a dyma saith o wartheg tew a phorthiannus yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd;

19. ac yna saith o wartheg eraill truenus a nychlyd a thenau iawn, yn dod ar eu hôl; ni welais rai cynddrwg yn holl dir yr Aifft.

Genesis 41