Genesis 31:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Clywodd Jacob fod meibion Laban yn dweud, “Y mae Jacob wedi cymryd holl eiddo ein tad, ac o'r hyn oedd yn perthyn i'n tad y mae ef wedi ennill yr holl gyfoeth hwn.”

2. A gwelodd Jacob nad oedd agwedd Laban ato fel y bu o'r blaen.

3. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jacob, “Dos yn ôl i wlad dy dadau ac at dy dylwyth, a byddaf gyda thi.”

Genesis 31