Genesis 30:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. A galwodd ef Joseff, gan ddweud, “Bydded i'r ARGLWYDD ychwanegu i mi fab arall.”

25. Wedi i Rachel esgor ar Joseff, dywedodd Jacob wrth Laban, “Gad imi ymadael, er mwyn imi fynd i'm cartref fy hun ac i'm gwlad.

26. Rho imi fy ngwragedd a'm plant yr wyf wedi gweithio amdanynt, a gad imi fynd; oherwydd gwyddost fel yr wyf wedi gweithio iti.”

27. Ond dywedodd Laban wrtho, “Os caf ddweud, yr wyf wedi dod i weld mai o'th achos di y mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i;

28. noda dy gyflog, ac fe'i talaf.”

Genesis 30