17. A gwrandawodd Duw ar Lea, a beichiogodd ac esgor ar y pumed mab i Jacob.
18. Dywedodd Lea, “Y mae Duw wedi rhoi fy nhâl am imi roi fy morwyn i'm gŵr.” Felly galwodd ef Issachar.
19. Beichiogodd Lea eto, ac esgor ar y chweched mab i Jacob.
20. Yna dywedodd Lea, “Y mae Duw wedi rhoi imi waddol da; yn awr, bydd fy ngŵr yn fy mharchu, am imi esgor ar chwech o feibion iddo.” Felly galwodd ef Sabulon.
21. Wedi hynny esgorodd ar ferch, a galwodd hi Dina.
22. A chofiodd Duw Rachel, a gwrandawodd arni ac agor ei chroth.
23. Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd, “Y mae Duw wedi tynnu ymaith fy ngwarth.”