Genesis 29:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Yr oedd gan Laban ddwy ferch; enw'r hynaf oedd Lea, ac enw'r ieuengaf Rachel.

17. Yr oedd llygaid Lea yn bŵl, ond yr oedd Rachel yn osgeiddig a phrydferth.

18. Hoffodd Jacob Rachel, a dywedodd, “Fe weithiaf i ti am saith mlynedd am Rachel, dy ferch ieuengaf.”

19. Dywedodd Laban, “Gwell gennyf ei rhoi i ti nag i neb arall; aros gyda mi.”

20. Felly gweithiodd Jacob saith mlynedd am Rachel, ac yr oeddent fel ychydig ddyddiau yn ei olwg am ei fod yn ei charu.

Genesis 29