Genesis 26:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Llwyddodd y gŵr, a chynyddodd nes dod yn gyfoethog iawn.

14. Yr oedd yn berchen defaid ac ychen, a llawer o weision, fel bod y Philistiaid yn cenfigennu wrtho.

15. Caeodd y Philistiaid yr holl bydewau a gloddiodd y gweision yn nyddiau ei dad Abraham a'u llenwi â phridd,

16. a dywedodd Abimelech wrth Isaac, “Dos oddi wrthym, oherwydd aethost yn gryfach o lawer na ni.”

Genesis 26