4. Ar y trydydd dydd cododd Abraham ei olwg, a gwelodd y lle o hirbell.
5. Yna dywedodd Abraham wrth ei lanciau, “Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; mi af finnau a'r bachgen draw ac addoli, ac yna dychwelwn atoch.”
6. Cymerodd goed y poethoffrwm a'u gosod ar ei fab Isaac; a chymerodd y tân a'r gyllell yn ei law ei hun. Ac felly yr aethant ill dau ynghyd.
7. Yna dywedodd Isaac wrth ei dad Abraham, “Fy nhad.” Atebodd yntau, “Ie, fy mab?” Ac meddai Isaac, “Dyma'r tân a'r coed; ond ble mae oen y poethoffrwm?”
8. Dywedodd Abraham, “Duw ei hun fydd yn darparu oen y poethoffrwm, fy mab.” Ac felly aethant ill dau gyda'i gilydd.