Genesis 1:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Bydded iddynt fod yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear.” A bu felly.

16. Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf y nos; a gwnaeth y sêr hefyd.

17. A gosododd Duw hwy yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear,

18. i reoli'r dydd a'r nos ac i wahanu'r goleuni oddi wrth y tywyllwch. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.

19. A bu hwyr a bu bore, y pedwerydd dydd.

Genesis 1