20. eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,
21. cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.
22. Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.
23. Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.
24. Y mae pobl Crist Iesu wedi croeshoelio'r cnawd ynghyd รข'i nwydau a'i chwantau.