Galatiaid 5:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Dyma yr wyf yn ei olygu: rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni fyddwch fyth yn cyflawni chwantau'r cnawd.

17. Oherwydd y mae chwantau'r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a chwantau'r Ysbryd yn erbyn y cnawd. Y maent yn tynnu'n groes i'w gilydd, fel na allwch wneud yr hyn a fynnwch.

18. Ond os ydych yn cael eich arwain gan yr Ysbryd, nid ydych dan gyfraith.

Galatiaid 5