Galatiaid 2:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Ond ni orfodwyd enwaedu ar fy nghydymaith Titus hyd yn oed, er mai Groegwr ydoedd.

4. Codwyd y mater o achos y gau gredinwyr, llechgwn a oedd wedi llechian i mewn fel ysbiwyr ar y rhyddid sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu, gyda'r bwriad o'n caethiwo ni.

5. Ond nid ildiasom iddynt trwy gymryd ein darostwng, naddo, ddim am foment, er mwyn i wirionedd yr Efengyl aros yn ddianaf ar eich cyfer chwi.

6. Ond am y rhai a gyfrifir yn rhywbeth (nid yw o ddim gwahaniaeth i mi beth oeddent gynt; nid yw Duw yn ystyried safle unrhyw un), nid ychwanegodd yr arweinwyr hyn ddim at yr hyn oedd gennyf.

7. I'r gwrthwyneb, fe welsant fod yr Efengyl ar gyfer y Cenhedloedd wedi ei hymddiried i mi, yn union fel yr oedd yr Efengyl ar gyfer yr Iddewon wedi ei hymddiried i Pedr.

8. Oherwydd yr un a weithiodd yn Pedr i'w wneud yn apostol i'r Iddewon, a weithiodd ynof finnau i'm gwneud yn apostol i'r Cenhedloedd.

9. A dyma Iago a Ceffas ac Ioan, y gwŷr a gyfrifir yn golofnau, yn cydnabod y gras oedd wedi ei roi i mi, ac yn estyn i Barnabas a minnau ddeheulaw cymdeithas, ac yn cytuno ein bod ni i fynd at y Cenhedloedd a hwythau at yr Iddewon.

10. Eu hunig gais oedd ein bod i gofio'r tlodion; a dyna'r union beth yr oeddwn wedi ymroi i'w wneud.

11. Ond pan ddaeth Ceffas i Antiochia, fe'i gwrthwynebais yn ei wyneb, gan ei fod yn amlwg ar fai.

Galatiaid 2