Galatiaid 1:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Ond petai rhywun, ni ein hunain hyd yn oed, neu angel o'r nef, yn pregethu i chwi efengyl sy'n groes i'r Efengyl a bregethasom ichwi, melltith arno!

9. Fel yr ydym wedi dweud o'r blaen, felly yr wyf yn dweud eto yn awr: os oes rhywun yn pregethu efengyl i chwi sy'n groes i'r Efengyl a dderbyniasoch, melltith arno!

10. Pwy yr wyf am ei gael o'm plaid yn awr, ai dynion, ai Duw? Ai ceisio plesio dynion yr wyf? Pe bawn รข'm bryd o hyd ar blesio dynion, nid gwas i Grist fyddwn.

11. Yr wyf am roi ar ddeall i chwi, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad rhywbeth dynol mohoni.

Galatiaid 1