Galarnad 1:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Estynnodd y gelyn ei lawi gymryd ei holl drysorau;yn wir, gwelodd hi y cenhedloeddyn dod i'w chysegr—rhai yr oeddit ti wedi eu gwaharddyn dod i mewn i'th gynulliad!

11. Yr oedd ei phobl i gyd yn griddfanwrth iddynt chwilio am fara;yr oeddent yn cyfnewid eu trysorau am fwydi'w cynnal eu hunain.Edrych, O ARGLWYDD, a gwêl,oherwydd euthum yn ddirmyg.

12. Onid yw hyn o bwys i chwi sy'n mynd heibio?Edrychwch a gwelwch;a oes gofid fel y gofida osodwyd yn drwm arnaf,ac a ddygodd yr ARGLWYDD arnafyn nydd ei lid angerddol?

Galarnad 1