Exodus 40:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Yna eneinia'r noe a'i throed, a chysegra hi.

12. Tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi â dŵr,

13. a gwisg Aaron â'r gwisgoedd cysegredig; eneinia ef a'i gysegru i'm gwasanaethu fel offeiriad.

14. Tyrd â'i feibion hefyd, a'u gwisgo â'r siacedau;

15. eneinia hwy, fel yr eneiniaist eu tad, i'm gwasanaethu fel offeiriaid; trwy eu heneinio fe'u hurddir i offeiriadaeth dragwyddol, dros y cenedlaethau.”

16. Felly gwnaeth Moses y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo;

Exodus 40