Exodus 39:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Gosodasant ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;

11. yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;

12. yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;

13. yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; yr oeddent i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.

14. Yr oedd deuddeg maen wedi eu henwi ar ôl meibion Israel; yr oedd pob un fel sêl ag enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.

15. Gwnaethant ar gyfer y ddwyfronneg gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd,

Exodus 39