Exodus 37:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Goreurodd hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.

27. Gwnaeth hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.

28. Gwnaeth y polion o goed acasia, a'u goreuro.

29. Gwnaeth hefyd olew cysegredig ar gyfer eneinio, ac arogldarth peraidd a phur, a chymysgodd hwy fel y gwna peraroglydd.

Exodus 37