Exodus 36:31-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. Gwnaeth hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,

32. a phump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol.

33. Gwnaeth i'r bar a oedd ar ganol y fframiau ymestyn o un pen i'r llall.

34. Goreurodd y fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt, a'u goreuro hwythau.

35. Gwnaeth orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arno.

Exodus 36