Exodus 36:28-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl,

29. wedi eu cysylltu'n ddwbl yn y pen a'r gwaelod â bach; yr oedd y ddwy ffrâm yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl.

30. Yr oedd wyth ffrâm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrâm.

31. Gwnaeth hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,

32. a phump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol.

Exodus 36