Exodus 35:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,

7. crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,

8. olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;

9. meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.

10. “Y mae pob crefftwr yn eich plith i ddod a gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD:

11. y tabernacl, ei babell a'i len, ei fachau a'i fframiau, ei farrau, ei golofnau a'i draed;

Exodus 35