Exodus 28:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. “Gwna ddwyfronneg o grefftwaith cywrain ar gyfer barnu; gwna hi, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad ac o liain main wedi ei nyddu.

16. Bydd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.

17. Gosod ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;

18. yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;

19. yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;

Exodus 28